Wrth chwerthin a thynnu coes, dechreua pysgotwyr y cregyn gleision eu gwaith yn fuan. Mae fy modryb wrthi’n tynnu fy sylw at y môr sydd ar drai. Gwena ei hwyneb garw gan wynt a glaw tuag at yr haul yn codi. Mae crychau ei hwyneb fel pelydrau a heulwen ei llygaid yn fy nghynhesu ar fy more cyntaf yn hel y cregyn gleision. Wyth oed ydw i yn y llun yma.
Mae hi’n gafael. Mae’r haul yn dal i glwydo, ond mae ôl ei ddeffro yn lliw'r awyr. Symudaf fy mhen i gyfarch y dyn llefrith, fy llais heb ddeffro eto, gyrra yntau ei fan laeth dros gerrig y stryd ac atsain tincian y poteli’n suo’r dref gwsg
I lawr ar y cei, mae’r gwylanod yn sgrechian nerth eu boliau a’r cychod bychain wrth eu hangor yn troi i wynebu’r lli. Ar unwaith, clywaf yr hen arogl cyfarwydd o heli, pysgod ac olew’r afon a sain y slochian a llepian wrth iddi lyfu waliau’r harbwr a chregyn y llongau yn y doc. Mae’r cychod mawr a chychod y cregyn gleision ar y llithrfa, y cribynnau a’r basgedi rhaffau’n barod am eu gwaith. Daw lleisiau i’w clywed dros y dŵr, a gwelaf bennau’r ‘ogia mewn cymylau o stem wrth i’w chwerthin cynnes daro ias yr aer.
Cyflwyniad
‘Fe allech chi glywed Gwladys yn canu ‘Jerwsalem’ ar draws yr holl harbwr.’
Roedd y frawddeg syml hon a’i delwedd drawiadol yn gyflwyniad i mi o fywyd pysgotwyr cregyn gleision Conwy. Fe’i clywais i hi wrth gyfweld â John ‘Dunphy’ Roberts pysgotwr sydd bellach wedi ymddeol, yn ei gartref yng Nghyffordd Llandudno. Adroddai o hanes ei ddwy fodryb, Gwladys a Nel a oedd wrth eu boddau’n mynd i bysgota’r cregyn gleision gydag o.
Roedd y cyfarfod yma’n nodweddiadol o’r hel atgofion melys ac adrodd hanesion o’r hen amser a’r sgwrsio naturiol gan y pysgotwyr wrth i mi siarad â nhw a chofnodi eu straeon ar gyfer y llyfryn yma.
Ar fore arall, roeddwn i wedi mentro tua thraeth Benarth, ble bu i mi siarad gynt â chyn weithiwr yn yr hen waith puro, gwelais Martin Parry yn gweithio ar ei gwch, ‘Welsh Maid’. Roeddwn i’n adnabod enw Martin ar ôl sgwrsio gyda Tom Jones yn Cregyn Gleision Conwy (Conwy Mussels) ar y cei. Martin, Francis Smith a Trevor Jones, Tad Tom, oedd wedi dechrau’r busnes yno ar ôl i Weinyddiaeth Amaeth a Physgodfeydd gau Benarth.
Gwthiodd Martin ei ben, a oedd dan het wlanog, allan o’r cwch i siarad â ni. Roedd o’n gwisgo crys streipiau pysgotwr ac roedd awyr las iasoer mis Chwefror yn gefndir tra roedd o’n adrodd hanes cenedlaethau o’i deulu a fu’n bysgotwyr. Roedd ei dad, ei daid a theulu ei fam i gyd yn bysgotwyr. Ganwyd Martin yn Wind Street, Conwy ac mae o bellach yn pysgota cimwch o amgylch Llandudno. Eglurodd o sut yr oedd Cyngor Conwy wedi helpu’r dynion ddechrau masnachu yn yr adeilad ble mae Tom yn gweithio rŵan. Mae Martin hefyd yn trosglwyddo’r wybodaeth arbenigol sydd ganddo i fyfyrwyr Coleg Llandrillo; mae o’n cofio oes aur y pysgota yng Nghonwy. Yn nhyb Martin, dim ond tua deuddeng daliwr trwydded ar gyfer pysgota’r cregyn gleision sydd yng Nghonwy; mae o’n gobeithio y gall Tom gadw’r diwydiant yn fyw gan fod safon cregyn gleision Conwy yn ardderchog.
© Gwasanaeth Archifau Conwy
Mae cyfeillgarwch, bywyd teuluol, derbyn pobl eraill a thynnu coes yn nodweddion amlwg yn y dynion yma, ac er mai dim ond un cyn bysgotwraig i mi ddod o hyd iddi, fe ges wybod bod y merched a oedd yn pysgota’r cregyn lawn mor eofn a chydwybodol â’r dynion wrth weithio ar y lan yn pigo ac yn trefnu’r llwyth.
Dyma’r oedd Gwladys Roberts a’i chwaer Nel yn wneud. Fe welais i erthygl o’r Daily Sketch yn Archifau Conwy, tudalen gyfan o 1938 yn sôn am bysgotwyr y cregyn gleision yng Nghonwy gyda llun brown ac wedi pylu o’r merched yn eu brethyn oeliog a chapiau pig. Mae Nel yn edrych tua’r môr ynddo ac yn croesawu’r cychod yn ôl i’r lan, ac mae Gwladys yn gwenu ar y camera.
‘Roedd Miss Gwladys Roberts, yn eisteddfotwraig adnabyddus ac roedd hi bob tro’n cyfarch y cychod gyda chân’, yn ôl y geiriad dan y llun. Yna, mae sôn difyr iawn i’r pysgotwyr fod yn y newyddion ychydig ddyddiau ynghynt pan ddaeth Mr Lloyd George ar frys i’r dref, ar ôl apêl, i gwrdd â dirprwyaeth. Roedd pryder y buasai adeiladu ffordd newydd ar lan y dŵr yn peryglu eu bywoliaeth; bu i Lloyd George addo eu cefnogi.
Mae’r darn yn cynnwys disgrifiad o sut yr oedden nhw’n golchi’r cregyn gleision yn y tanciau, gyda pheipen ddŵr pwysedd uchel, cyn eu diheintio. Mae llun yn dangos y pysgotwyr yn dod adref gyda’r cribynnau coesau hirion yr oedden nhw’n eu defnyddio i hel y cregyn.
Mae mwy o sôn am y datblygiad yma yn llyfryn Michael Senior, ‘Croesi Afon Conwy’ (Gwasg Carreg Gwalch, 2008), sy’n trafod y cynllun ffordd a gyflwynwyd ym 1938 a fyddai wedi dinistrio Conwy fel tref harbwr. Mae'n nodi pryder y pysgotwyr y basen nhw’n colli eu bywoliaeth heb y cei.
Mae o’n dweud fel yr oedd diwydiant y cregyn gleision yn rhan fwy o economi’r dref bryd hynny, ac roedd can pysgotwr namyn pedwar yn dal trwydded. Cytunodd Lloyd George ei fod yntau’n pryderu am waith y pysgotwyr, ond dywedodd y buasai’r dewis arall, sef mynd â’r ffordd trwy ganol y dref yn waeth fyth. Bu newid cynlluniau droeon nes y cynigwyd tyllu twnnel dan y môr ym 1988; gorffennwyd y gwaith ym 1989. Mae’n ddifyr nodi bod y cregyn gleision yn dal i buro’r dŵr nes ei fod yn lâ n hyd yn oed trwy gydol y gwaith a’r dymchwel mawr.
Dyma ddywedodd Ronnie Ellis:
‘Gallasai Prosiect Colcon fod yn broblem enfawr. Gan eu bod nhw’n carthu gwely’r afon, roedd llawer iawn o solidau’n codi; i ddechrau doedd unrhyw un yn meddwl y buasai’n bosib puro’r cregyn gleision yn y dŵr budr. Fodd bynnag, dyna roi tro arni, ac o weld y canlyniadau, roedd pethau’n argoeli’n dda iawn. Roedd y cregyn yn hidlo’r dŵr cymylog mewn dim. Roedd y profion iechyd yn gadarnhaol a dechreuwyd defnyddio cregyn gleision i buro dŵr lab nad oedd unrhyw hidlydd arall yn gallu ei drin hyd yn oed!’
Yn fuan wrth wneud y prosiect hwn, bu i mi gyfarfod yn gyson gyda chriw o ysgrifenwyr gwirfoddol. Roedden nhw’n awyddus i drosi’r hanes a’r straeon ‘roeddem ni’n eu casglu yn gerddi a rhyddiaith, ac fe welwch chi rai o’r rhain drwy’r llyfryn.
Wrth i mi siarad gyda mwy o bysgotwyr, fe ddysgais i fwy a mwy am y technegau pysgota. Mynaich Sistersaidd yn y ddeuddegfed ganrif a ddyfeisiodd y cribynnau ffawydden goch. Fe ddysgais i hefyd mai pobl fel Peter Higginbottom, y bu i mi siarad ag o mewn bore coffi yn Eglwys Sant Ioan, sy’n gwneud y cribynnau haearn a ddefnyddir heddiw. Dysgais fod rhaid troi’r cribyn pan oedd o’n llawn er mwyn ei wagu i’r cwch. Dywedodd Peter fod y cribynnau’n aml wedi’u gorchuddio gan rew yn ystod y gaeaf; roedd hyn yn rhywbeth a glywais i droeon yn y cyfweliadau.
Bûm i’n clywed hanesion gan ddynion fel Ken ‘Rimmer’ Hughes, a ddechreuodd bysgota pan oedd o’n fachgen. Byddai o’n mynd allan mewn gwynt, eira a glaw yn bedair ar ddeg oed, heb siaced achub, ac yn dysgu sut i ymdopi â chwiw’r tywydd gyda’r un llyfnder ag yr oedd o’n tynnu’r ddalfa. Dysgais mai llond llaw o deuluoedd yng Nghonwy fu’n gnewyllyn diwydiant y cregyn gleision pan oedd yn ei hanterth, roedd crybwyll yr un enwau ym mhob sgwrs: enwau teulu Jones, Roberts, Hughes a Craven. Roedd cysylltiadau rhwng llawer ohonyn nhw, trwy gyfeillgarwch neu briodi rhyngddynt. Er enghraifft, bu i Ken ‘Rimmer’ Hughes briodi Denise, a oedd yn un o deulu Craven. Ymddengys bod eu cyndeidiau wedi cyrraedd Conwy mewn cychod a llongau yn chwilio am loches, ac wedi cartrefu a phriodi yn y dref. Pan ofynnais i Johnny Roberts awgrymu pysgotwyr eraill y gallwn i siarad â nhw, dywedodd:
‘Mae Bryn Hughes ar y cei, a Tim, ei fab… Roland Hughes, sy’ wedi marw bellach, oedd eu tad. Wrth gwrs, mae Trevor Jones, a Tom, Cregyn Gleision Conwy ar y cei ydy ei fab yntau.’
Felly dechreuais i ddarganfod cysylltiadau a deall y buasai toreth o straeon i’w hadrodd, ac aml i fersiwn o’r un rhai. Gwyddwn i am Gwladys a Nel, o siarad â Betty Pattison, OBE, roedd y ddwy yn fodrybedd di-briod iddi. Betty oedd y cyntaf i sôn wrthyf i am Gwladys yn canu, a’i bod yn gweithio â’r cregyn gleision i dalu am ei gwersi cerddoriaeth. Pan es i siarad â brawd Betty, John ‘Dunphy’ (oherwydd fe’i magwyd ar gornel Dunphy yng Nghonwy), roedd yntau’n sôn am y ddwy wraig ond o ogwydd gwahanol eto.
Yn ystod fy nghyfweliad gyda Brian ‘Porth Bach’, bu iddo fo sôn am Ronnie Ellis, y gŵr sy’n gwybod popeth am y tanciau puro yn ôl y sôn. Y cwbl a wyddwn i bryd hynny oedd bod y tanciau wedi mynd, ond y buon nhw unwaith yn hanfodol er mwyn cyrraedd a chynnal y safonau hylendid angenrheidiol yn y diwydiant cregyn gleision llewyrchus. Un bore, fe es i am dro i Benarth a gweld tri dyn yn gweithio gyda chraen, ysgraffau a metel ar y traeth bach, gofynnais iddyn nhw pwy fuasai’n gallu dangos i mi ble roedd yr hen danciau.
“Dyma chi’r boi i chi!” meddai un ohonyn nhw, a dyna ble’r oedd yr enwog Ronnie Ellis! Roedd o’n fodlon a pharod i ddangos safle’r tanciau i mi, egluro’r broses buro a disgrifio’r bwrlwm a’r cyfeillgarwch fu yma unwaith ar lan yr afon. Fe ges i’r straeon yn ddifyr a hyfryd. Roedd delwedd hynod yn llunio yn fy meddwl o dref arfordirol a’i diwydiant wedi'i reoli gan y llanw; ble byddai rhyw fodryb yn dod ac yn curo ar eich drws yn oriau mân y bore i’ch hebrwng i’r môr; ble byddai sachau hesian canpwys llawn cregyn gleision wedi eu cau gyda sêl blwm yn mynd i’r farchnad; ble byddai bachgen yn tyfu’n ddyn fel Johnny Roberts, Gallery Café, cyn darganfod bod ei ‘frawd’ yn ewythr iddo, ond nad oedd unrhyw un wedi meddwl crybwyll y peth!
© Gwasanaeth Archifau Conwy
Yma, yng nghaffis, cartrefi a thafarndai Conwy, mae lluniau ar waliau y gall rhywun gyfeirio atyn nhw a dweud yn falch “Dyna fi, yr ieuengaf o’r deg pysgotwr ar hugain!” neu, “Fe dynnwyd y llun yma pan ddaeth cwmni Walt Disney i’n ffilmio ni!”
Yn fuan yn y prosiect, fe dynnais at ei gilydd griw o ysgrifenwyr gwirfoddol er mwyn dadansoddi’r wybodaeth yr oedden ni’n ei chasglu a’i throsi yn gerddi a straeon. Mae un o fy myfyrwyr yn fiolegydd môr ac mae ei stori hi, ‘The Trochaphore Dance’ wedi ei selio ar ei gwybodaeth wyddonol am sut mae’r cregyn gleision yn tyfu ac yn datblygu ar wely’r aber.
Gyda chymorth Iolo Griffiths, llyfrgellydd North Wales Weekly News, fe gasglais i lawer o ddarnau o erthyglau yn sôn am y diwydiant. O bryd i’w gilydd roedd ansicrwydd pan oedd mwy a mwy o geisiadau am drwydded yn methu a’r arolygwyr yn codi eu gofynion. Mae Tom Jones, perchennog yr amgueddfa cregyn gleision ar y cei, yn dweud ei fod yn waith caled a bod rhaid ufuddhau rheolau llym iawn. Serch hynny, fe welwn ni Tom yn croesi’r afon ar ei gwch tua’r sachau llawn ar yr ysgraffau. Wrth ei wylio, daw cofio’r hen draddodiadau a natur sylfaenol y gwaith sydd wedi goroesi cenedlaethau o bysgotwyr cregyn gleision yng Nghonwy.
“Ers pan oeddwn i’n blentyn, roedd fy mryd i ar fod yn bysgotwr, ac rydw i’n helpu yma ers pymtheng mlynedd.” dywedodd Tom Jones wrth inni eistedd ar wal ar y cei yng Nghonwy a hithau’n ddiwrnod oer o wanwyn. Rydym ni’n cuchio wrth edrych tua’r ysgraff wrth angor yn y dŵr.
‘Roeddem ni’n ‘sgota draenog y môr, hyrddyn ac eog bryd hynny,’ dywedodd.
Gwyliai Tom ei dad, Trevor Jones, yn pysgota cregyn gleision gyda chribyn.
‘Roedd gen i ddiddordeb ynddo fo ond pan ô ’n i’n ddeunaw neu bedair ar bymtheg mi ges i gyfle i fynd i’r brifysgol, felly mi es. Ond ro’n i wastad yn bwriadu dod yn ôl i Gonwy i bysgota.’
Tan hynny, doedd Tom ddim wedi defnyddio cribyn ffawydden coes hir.
‘Dysgodd Ken Hughes i mi sut mae bwrw’r cribyn dros ochr y cwch a thynnu’r cregyn ataf gan bwyll, hanner cribinaid y tro. I ddechrau, mi fyddwn i’n tynnu’r cribyn ataf a hwnnw’n llawn gwymon a thywod ond ar ôl amser, mi ddes i i’w deall hi. Mae angen arbenigwr i’ch dysgu chi, ond mae’r dechneg yn dod gydag amser.’
Dywedodd Tom wrthyf fi bod y diwydiant cregyn gleision, tyfu a gwerthu’r cregyn, yng Nghonwy yn bodoli ers 250 mlynedd. ‘Cyn hynny, roedden nhw’n pysgota am berlau, ond mae’r perlau wedi mynd rŵan a does neb yn gwybod pam!’
Roedd adeilad Cregyn Gleision Conwy ar y cei wedi ei ddylunio’n arbennig er mwyn puro’r cregyn.
‘Wedi i’r gwaith symud yma o Benarth, bu fy nhad yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r pysgotwyr, Martin Parry a Francis Smith. Ar y pryd, roedd pedwar pysgotwr ar bymtheg yn gweithio ac yn cribinio yn yr afon.’
Mae pysgotwyr y cregyn gleision yn gweithio tua hanner milltir o’r lan ym mhob tywydd. Mae gwelyau’r cregyn ar wasgar ar draws yr aber ble mae’r dŵr yn gymysgedd o ddŵr afon a dŵr heli. Rhan o’r dechneg ydy dod o hyd i’r cregyn gleision yn gyntaf, yn ôl Tom.
‘Mae’r cregyn sy’n dod o’r dyfnderoedd yn fwy ac maen nhw’n ddu, “diemwntau duon” ‘rydyn ni’n eu galw nhw. Mae’r rhai eraill yn wyn neu’n las. Mae cregyn gleision yn tyfu i’w maint llawn mewn tair blynedd, o fod yn hadau melyn yn y dyfroedd bas. Mae hi’n broses naturiol, mae’r cregyn yn dibynnu ar dywydd garw i’w hyrddio nhw i’r dyfnderoedd ble byddan nhw’n tyfu’n llawn.’
Mae cregyn gleision Tom yn unigryw ym Mhrydain gan mai yma’n unig mae’r pysgotwyr yn defnyddio cribyn llaw yn hytrach na charthu’r afon neu dyfu’r cregyn ar raff. ‘Mae’n ffordd gynaliadwy o bysgota o wely naturiol yr aber,’ dywedodd.
Eglurodd: ‘Rydym ni’n golchi’r cregyn ac yn eu rhoi mewn bagiau draw ar yr ysgraff acw, ac yna yn eu dod â nhw i’r adeilad ar y lan. ‘Rydym ni’n eu trefnu nhw i fasgedi cyn eu rhoi nhw ar blât mawr a’u gostwng nhw i mewn i ddŵr heli. Maen nhw’n glanhau am ddwy awr ar ddeugain ac yna maen nhw’n iawn i’w bwyta. Rydym ni’n eu graddio, trefnu a’u rhoi nhw mewn bagiau ac yna maen nhw’n barod i fynd i’n prif farchnadoedd yn Lerpwl, Manceinion, Birmingham a Llundain.’
Mae’n waith caled. Weithiau mae rhaid pysgota am 3 o’r gloch ar fore o aeaf, ac mae rhaid i bob pysgotwr ddal trwydded.
‘Mae’r costau’n uchel hefyd: rhent, cyflogau, rhedeg y tanciau a.y.b. Beth sydd ei angen arnom ni rŵan ydy galw mawr,’ dywedodd Tom yn hyderus yn gwenu o glust i glust wrth iddo godi i weld sut siâp oedd ar bethau.
Ken 'Rimmer' Hughes
Mae Ken yn enwog yng Nghonwy am fod y pysgotwr hynaf. Mae o’n byw yn y stryd lle mae o wedi byw ar hyd ei oes. Dros y ffordd o’i dŷ yn 11 Berry Street, mae bwthyn ei daid a oedd yn un o’r teuluoedd gwreiddiol o bysgotwyr cregyn gleision yn y cyfnod diweddar.
Mae tŷ Ken yn llawn darnau o erthyglau, llyfrau am Gonwy a darlun portread gan Jean Morgan-Roberts ar gyfer ei llyfr, The Character of Conwy. Tynnodd Ken, 87, fy sylw at y tŷ ar draws y stryd.
‘Roedd fy nhaid yn byw yn y fan ‘na, yn rhif 14. Daeth o yma o Blackpool, gydag aelodau o deulu Craven,’ dywedodd Ken. ‘Roedden nhw’n pysgota ar hyd yr arfordir ac mi ddaethon nhw i Gonwy am loches. Daethon nhw yma i fyw wedyn a phriodi â merched lleol.'
Mae gwraig Ken yn un o deulu Craven ac fe’i magwyd hithau yn yr un stryd.
‘Dechreuodd fy nhaid weithio gyda’r pysgotwyr cregyn gleision lleol, roedd ‘na tua hanner cant ohonyn nhw bryd hynny. Daeth fy nhad, a fy ewythredd William, Robert a John.’
Pan oedd Ken yn bedair ar ddeg, ei dro o oedd dilyn trefn y teulu. Dechreuodd ar y lan yn pigo’r cregyn, roedd o’n dal i weithio tan ei fod o’n agos i bedair ugain oed!
‘Alla i ddim egluro’r peth,’ oedd ei ateb pan ofynnais iddo sut yr oedd o wedi dal ati i weithio cyhyd. Mae’n amlwg wrth ei wybodaeth am yr afon a’r gwelyau cregyn gleision bod ganddo angerdd at y dŵr.
Efallai bod siâp afon Conwy wedi newid oherwydd adeiladu’r twnnel, ond pan mae Ken yn clywed pobl yn dweud eu barn ynglŷn â ffurf anniffiniadwy’r afon, mae o’n deud ‘Dw i’n gwrando dan chwerthin!’
‘Prentis oeddwn i’n gyntaf, yn dysgu sut mae defnyddio’r cribyn haearn a golchi’r cregyn,’ meddai Ken. Mae’n cofio mai’r merched fyddai’n gweithio ar y lan, yn pigo’r cregyn ac yn eu trefnu.
‘Mi fyddem ni’n nôl y cregyn ar y ffordd yn ôl ac yn mynd â nhw i Benarth.’
Mae Ken yn cyfaddef nad oedd o’n hoff iawn o drefnu’r cregyn gleision. ‘Mae’n waith caled, ond mi fyddai pobl yn gwneud hwyl am eich pen petaech chi’n gwisgo menig! Mi fyddech chi’n rhwymo stribyn o galico o amgylch eich migyrnau i’w harbed nhw.’
Eglurodd Ken y broses o bysgota o’r cwch: ‘Roedd ‘na gefn i’r cribyn felly, pan oedd o’n llawn, ‘ro’ch chi’n ei droi o ben ei waered i wagu’r ddalfa i’r cwch. Wedyn roedd angen trefnu - roedd ‘na faw a gwymon - ac roedd rhaid i’r cregyn fod dros ddwy fodfedd o hyd. Mi fyddem ni’n eu rhoi nhw mewn bagiau yn y cwch ac mi fyddai deg ar hugain neu ddeugain o ddynion yn eu cario nhw i fyny i Benarth. Roedd 'na dri thanc ac mi fyddem ni’n rhoi’r cregyn i mewn iddyn nhw gael eu glanhau gyda pheipen ddŵr ac yna roedd rhaid llenwi’r tanciau gyda chynnyrch glanhau. Wedi gorffen y broses, mi fyddem ni’n llwytho’r cregyn ac yn eu hanfon nhw i’r farchnad.’
Fe fyddai Ken yn mynd allan ei hun, neu weithiau gyda’i gefnder, Derek.
‘O bryd i’w gilydd, mi fyddai yna ddau mewn cwch, ond fel arfer mynd fesul un y byddem ni. Roedd pobl yn ymdrechu’n galed i brynu a chynnal eu cychod, ond roedd rhaid cael eich cwch eich hun os oeddech chi’n cribinio. Yn hwyrach, mi fyddai gennym ni gychod un droedfedd ar bymtheg gyda phlatfform o iard gychod Crossfield.’
Mae Ken yn cofio mynd allan yn y cwch heb siaced achub, a hynny mewn eira, gwynt, glaw, yn aml yn y nos, ac yn trefnu’r cregyn gyda dŵr yn slochian i mewn i’r cwch. ‘Yn aml, mi fyddai yna orlifo, yn gadael dim ond tua chwe modfedd,’ dywedodd Ken wrth chwerthin. Dydy o ddim yn gallu nofio, a bellach mae o’n ‘gallu dal ei hun ar wyneb y dŵr – cael a chael’. Roedd hi’n waith caled, meddai o, ond roedd y dynion
yn gyfeillion da, ac roedd y gymdeithas yn un glòs.
© Gwasanaeth Archifau Conwy
‘Rydw i’n dal i fynd i lawr yno am dro i weld sut mae pethau.
John Keith Roberts
‘Fel plant, roeddem ni o hyd yn y tanciau a’r cychod a fyddem ni byth yn gwisgo siacedi achub!’
Bu John Keith Roberts yn gweithio gyda’r cregyn gleision o pan oedd o’n ddeg oed. Mae o bellach wedi ymddeol ac yn byw yn Ivy Dene yng Nghyffordd Llandudno, nid nepell o ffynhonnell ei atgofion yng Nghonwy.
‘Roedd fy nain yn byw wrth y cei ac roeddem ni o hyd yno’, meddai John.
‘Roedd o’n waith caled, ond roeddwn i’n mwynhau. Magwyd ni iddo fo, mi fues i’n gwneud hynny o pan ô ’n i’n ddeg oed. Mi fyddem ni yno deirgwaith yr wythnos, ac yn ystod y gwyliau a phenwythnosau. Roedd y plant i gyd yno, roedd o’n arian poced da!’
Bu John yn gweithio efo’r cregyn gleision o pan oedd o’n ifanc: yn eu llwytho nhw i mewn i fagiau canpwys a'u labelu nhw yn dweud i ble roedden nhw’n mynd yn ogystal â rhoi'r dyddiad arnyn nhw cyn bod y sêl blwm yn mynd arnyn nhw.
Er ei fod wedi ennill grant addysg, fe adawodd John yr ysgol yn bymtheng mlwydd oed i weithio’n llawn amser fel pysgotwr cregyn gleision. Roedd gan y pysgotwyr eu cychod un droedfedd ar bymtheg o hyd eu hunain, a chwch modur i dowio’r cwch pysgota. Ond yn oes tad John, cwch hwylio fydden nhw’n ei ddefnyddio.
‘Yn ystod tymor pysgota cregyn gleision, o fis Medi tan y Pasg, mi fyddem ni’n mynd allan pan oedd y môr ar drai ac yn dod yn ôl gyda’r llanw. Mi ‘dach chi’n chwilio am dir meddal, mae’r cregyn gleision yn creu mwd. Mi fydden ni’n gweithio am bedair awr, ac roedd hi galetaf yn y gaeaf pan oedd hi’n aml yn rhewi. Ond dyna fo, pan ‘dach chi’n ifanc, ‘dach chi’n teimlo dim a wnaeth hynny erioed fy narbwyllo!’’, meddai John yn chwerthin a thynnu fy sylw at lun o’r pysgotwyr ym 1948, ac yntau'r ieuengaf o’r criw. Mae’r llun yn un o gasgliad Johnny Roberts. Roedd tad Johnny, John yn bartner pysgota i John Keith am flynyddoedd. ‘Mi fyddai Johnny’n dod efo ni, ac yn gweithio gyda mi,’ dywedodd wrth gofio ‘oes aur’ y cregyn gleision yng Nghonwy yn y 1950au a’r 1960au.
‘Dyna’r pryd yr oedd y mwyaf o gregyn a physgod yng Nghonwy, ac felly'r pryd yr oeddem ni’n dal y mwyaf o gregyn gleision,’ dywedodd John.
Roedd tad John, William a fu farw pan oedd John yn saith, yn un o hen deuluoedd pysgotwyr Conwy ac wedi bod yn bysgotwr cregyn gleision trwy ei oes. Roedd o’n un o ddeugain neu hanner cant o bysgotwyr cregyn gleision ar y pryd.
‘Roedd teulu fy nhad a fy mam i gyd yn bysgotwyr,’ meddai John, a aned uwch ben ble’r oedd Dunphy’s yng Nghonwy, a ble bu ei deulu’n byw am bedwar ugain o flynyddoedd. Roedd y teulu’n un clòs, ac roedd ei fodrybedd di briod, Gwladys a Nel, hefyd yn bysgotwragedd brwd.
‘Mi fyddwn i’n mynd â nhw bob dydd - roedden nhw’n gwrthod ymddeol! Eu gwaith nhw oedd trefnu a dethol y cregyn gleision. Mi fydden nhw’n dod o’r cei yn y bore bach i fynd at waith, ac yn rhoi cnoc i’n deffro ni! Mi fyddem ni ar y traeth am 5:30 y bore gyda lampau yn trafod a oedd hi’n rhy hegar i fynd allan ai peidio. Fydden nhw eu dwy byth yn meddwl ei bod hi’n rhy hegar!’
Mae John yn cofio’n braf fel y byddai’r pysgotwyr lleol yn clywed llais Gwladys yn canu ‘Jerwsalem’ dros yr harbwr. ‘Yr Eos Cymraeg’ fydden nhw’n ei galw.
‘Roedd y ddwy wrth eu boddau yn pysgota’r cregyn gleision, a doedd hynny’n ddim i wneud â’r arian. Roedd Nel yn gallu trin y cychod yn dda, ond roedd angen gwylio Gwladys - mi fu hi bron â’m taflu i drosodd fwy nag unwaith!’
Pan oedd y diwydiant yn ei hanterth, fe ddaeth cwmni Walt Disney yma i wneud ffilm yn dangos y pysgota a threfnu. Dangoswyd y ffilm mewn sinemâu lleol.
Mae John yn cofio’r hen deuluoedd adeiladu cychod ar y cei. Roedden nhw’n ‘adeiladwyr traddodiadol da’ a fyddai’n adeiladu cychod newydd bob gaeaf. Fe fyddai teulu Craven, Roberts, Hughes a Jones, a chanddyn nhw eu traethau pysgota eu hunain, yn mynd â thwristiaid ar deithiau pysgota yn ystod yr haf.
‘Roeddem ni’n gwneud bywoliaeth, ond roedd ‘na rai gaeafau caled a’r cregyn gleision yn brin oherwydd tan atgenhedlu neu or-bysgota. Mi fyddem ni’n mynd draw tua Brynsiencyn i bysgota ble bydden ni, ‘sgotwyr cregyn gleision Conwy, yn talu am ein darn tra roedd y gwelyau’n atgyflenwi. Mae’r ail-hadu naturiol yn digwydd ym mis Ebrill,’ meddai John, ‘a Chonwy ydy un o’r unig lefydd sy’n dal i adael i ail-hadu ddigwydd yn naturiol.
Bu John yn cynrychioli’r pysgotwyr am flynyddoedd fel cadeirydd Pwyllgor Harbwr Conwy a chadeirydd Cymdeithas Cregyn Gleision Conwy, a bu’n aelod o dîm Bad Achub Conwy a Llandudno tan ugain mlynedd yn ôl .
Fe fyddai’n mynd i bob un o’r cyfarfodydd am ddeng mlynedd ar hugain. ‘Mi roesom ni gychod ar gyfer y gwaith twnelu yng Nghonwy, ac yn mynd â phlymwyr y Swyddfa Gymreig i wneud eu harchwiliadau.
Roedd John hefyd yn aelod o Bwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd Cymru a Sir Gaerhirfryn, ac roedd o’n dal i fod ar y Pwyllgor yng nghanmlwyddiant diweddar y pwyllgor. Mae o’n cofio dod yn ôl o'i deithiau pysgota i newid ei ddillad yn y car cyn mynd i’r pwyllgorau tra roedd gweddill y pysgotwyr yn mynd draw i’r Liverpool Arms am beint!
‘Roedd y Pwyllgor yn goruchwylio sut faint o bysgod a ddalwyd, pa faint oedden nhw ac yn y blaen. Er enghraifft, gostyngwyd y cyfyngiadau ar faint y cregyn gleision o fod yn ddim llai na dwy fodfedd i fod dim llai na modfedd a hanner. Roedd hi’n draddodiad bod rhaid cael pysgotwr cregyn gleision ar y pwyllgor,’ eglurodd John. Hefyd, roedd angen rhywun yno i warchod ein hawliau!’
Brian 'Porth Bach'
‘Iasu, mi roedd hi’n fferru!’
Mae Sandy, partner Brian ‘Porth Bach’ Jones, yn cofio’r adegau yr oedd hi wedi rhoi tro ar bysgota’r cregyn gleision ei hun.
‘Pan gwrddais i â Brian gyntaf, mi fyddwn i’n mynd yn y cwch efo fo. Mi fuasai o’n dweud wrtha i “D’eud pan ‘ti wedi cael llond bol,” ond roeddwn i’n mwynhau!’
Roedd Brian wedi bod yn sôn am ei blentyndod yn y bythynnod yn Rhes Tŷ’r Tollau Customs House Terrace, wrth Borth Bach, ar gei Conwy: ‘Ro’n i’n byw yn rhif 1 pan oeddwn i’n blentyn, ond ‘dw i hefyd wedi byw yn rhif 2 ac yn rhif 5!’ dywedodd Brian.
Bu i Sandy, a gyfarfu Brian yn y 1990au, ac sy’n wreiddiol o Fanceinion, ddod yn bysgotwraig frwd yn ddigon buan, yn dilyn traddodiad yr hen Gwladys a Nel, modrybedd Betty Pattinson a John ‘Dunphy’ Roberts.
Bryd hynny, byddai Sandy’n mynd allan i’r gwelyau gyda Brian a byddai hi’n aros yno yn pigo ac yn trefnu’r cregyn ac yntau’n mynd i gribinio ymhellach yn y môr.
‘Roeddwn i’n hoffi hynny, gan fod gwaith canolbwyntio ac roedd hi mor dawel,’ dywedodd Sandy.
Yn hwyrach, byddai hi’n gyrru ei Subaru ar y traeth i helpu llwytho’r cregyn a mynd â nhw i Fangor i’w puro gan fod tanciau Benarth bellach wedi cau. Roedd y cregyn wedyn yn mynd ddwywaith yr wythnos i’r asiantau, ar y ffordd: ‘Mi fydden nhw’n ffonio ac yn dweud sawl sachaid yr oedd arnyn nhw eu heisiau,’ meddai Brian, yn cofio faint o waith caled oedd y pysgota ym mhob tywydd, trin y polyn deng troedfedd ar hugain a’r cribyn haearn ar y cychod, ac yna llwytho’r sachau trymion.
Roedd Brian yn bysgotwr cregyn gleision ers ei ddyddiau cynnar, ac fe fyddai’n chwarae triwant o’r ysgol i fynd ar y cychod pan oedd o’n ddeg oed. Roedd Brian yn dilyn ei dad, Llew, ei daid, a’i hen daid cyn hwnnw, aelodau o un o deuluoedd y pysgotwyr cregyn gleision gwreiddiol.
Byddai Llew’n pysgota gyda Huw, Ewythr Brian a brawd ei dad. Byddai’r ddau’n paentio’r cychod hwylio neu’r cychod rhwyfo, neu’n mynd i bysgota eog yn uwch i fyny’r dyffryn pan nad oedd hi’n dymor y cregyn gleision. ‘Mae tymor yr eog yn dechrau ar 1 Ebrill ac mae’r drwydded yn ddilys tan ddiwrnod olaf mis Medi, felly roedd hynny’n gweddu tymor y cregyn gleision yn berffaith.’
Mae waliau cartref Brian a Sandy ym Mharc Cadnant yn lluniau o’r hen ddyddiau drostyn nhw. Yn un llun mae stwrsiwn enfawr ar y traeth a pherthnasau Brian yn edrych arno mewn edmygedd. Mae 'na amryw o hen luniau o griwiau o bysgotwyr cregyn gleision neu o gychod hwylio’n gadael y lan ar ddyfroedd tawel Conwy.
Eglurodd Brian fel yr oedd rhai o’r pysgotwyr yn codi hwyl ar gychod bychain pren yn lle defnyddio’r modur: ‘Byddai fy nhad yn hwylio i’w waith, ond byddai rhai eraill yn defnyddio’r modur,’ ac wrth gwrs, fel llawer o’r pysgotwyr eraill, fyddai Llew ‘byth yn gwisgo siaced achub!’
Bu i Brian sôn am y Tŷ Lleiaf ym Mhrydain a oedd yn un o res, a dywedodd mai ei hen daid, John Jones oedd berchen y tŷ. ‘Bu i’r cyngor gondemnio’r holl res ond mynnodd John fod y tŷ pellaf yn aros oherwydd ei faint. Mi fuon nhw’n ymchwilio a darganfod mai hwnnw oedd tŷ lleiaf Prydain! Mae pawb yn gyfarwydd â beth ddigwyddodd wedyn!,’ chwarddodd Brian. Dywedodd mai ei gyfnither ydy Margaret Williams, a oedd yn arfer dangos y tŷ i ymwelwyr. Dyna esiampl arall o ba mor agos ydy’r teuluoedd yma.
Mae’n ymddangos yn fywyd delfrydol, mynd allan i forio a chei Conwy, y castell a thai eich cyndeidiau y tu cefn i chi, gweithio mewn diwydiant hynafol gyda chyfeillion da - ‘Y pysgotwyr cregyn gleision oedd dynion y bad achub hefyd!’ Doedd y dulliau heb newid dros y blynyddoedd, ac mae gan Brian ‘Porth Bach’ lawer o atgofion melys; ond mae ganddo stori drasiedi hefyd i’w hadrodd.
Roedd o’n pysgota gyda’i frawd bach, Tony ym 1971. Roedd Tony yn fyfyriwr ac wedi dod adref yn ystod y gwyliau. Roedd y ddau allan wrth y Bicell yng nghanol yr aber ar ddydd oer o Ionawr. Ar ôl ychydig o oriau trodd y môr yn wyllt. Trowyd y cwch gan y tonnau mawr a chollwyd Tony. Bu i bysgotwyr o gwch arall achub Brian, a chafwyd corff ei frawd ychydig wythnosau’n ddiweddarach.
Er bod Brian wedi dal ati i bysgota’r cregyn gleision, dydy o ddim wedi teimlo’r un ffordd tuag at y môr fyth ers hynny. Ond wrth iddo edrych drwy luniau o’i gyndadau, mae’r balchder ynddo yn amlwg, a’r boddhad o fod yn un o deulu sydd wedi byw wrth yr aber ers blynyddoedd yn rai o bysgotwyr cregyn gleision hynaf a mwyaf profiadol Conwy.
Betty Pattinson OBE
‘Pysgotwr fuaswn innau hefyd mae’n debyg, pe na bawn i’n ferch!’
Betty Pattinson, OBE, Jac do a chyn faer Aberconwy, bu ddwywaith yn faer Conwy. Mae hi’n awdur dau lyfr am ei thref enedigol, ac yn adrodd hanes ei theulu gyda’r diwydiant cregyn gleision gyda phleser.
‘Teulu hen fferi’ oedden nhw’n galw ein teulu ni. Ai un o’m cyndeidiau, William ap Roberts, a fu’n cwyno wrth y llys yn yr unfed ganrif ar bymtheg ganrif bod rhywun yn fandaleiddio’i longau?’ pendronodd Betty, ac ychwanegu ‘Roedd ‘na fferi yn mynd i Ddeganwy tan ar ôl yr Ail Ryfel Byd.’
Roedd taid Betty yn beilot ar gyfer y llongau hwylio oedd yn dod i’r harbwr yng Nghonwy, ac fe gredir mai ei theulu hi ydy’r teulu pysgota hynaf yng Nghonwy, yn pysgota perlau ar y dechrau.
Mae Betty’n cyfeirio at lyfr y Parch. Robert Williams am Aberconwy ym 1835, ble ceir disgrifiad o’r diwydiant perlau:
© Gwasanaeth Archifau Conwy
Erbyn 1939, yn ôl Betty, roedd pymtheg trwydded a thrigain yng Nghonwy, ac roedd y cregyn gleision yn mynd i farchnadoedd ar draws Prydain. Mae ganddi dderbynebion yn dal i fod o Fanceinion, Birmingham a Bridlington.
‘Ond yn ystod y Rhyfel, caewyd y tanciau gan fod cymaint o’r hogia’ wedi mynd i ryfel.’
Roedd brawd Betty, John, a’i chefndryd i gyd yn bysgotwyr cregyn gleision.
‘Roedd gan fy nhad, William Owen Roberts, ei frawd John, a’r teulu long pysgota, ‘The Reliance’,’ meddai Betty.
‘Roedd ‘na un arall, ‘The Sal’ gan y teulu Roberts,’ meddai, ‘Roedd gan bob teulu ei draeth. Roedd ein traeth ni, traeth ‘Roberts’ ar Rodfa’r Môr. Porth Bach oedd traeth teulu Jones, ac roedd teulu Hughes a Craven yn gweithio o’r cei.
‘Mae pysgota’r cregyn gleision yn dymhorol ac felly yn yr haf roedd y pysgotwyr yn edrych ar ôl cychod yr hwylwyr. Roedd ganddyn nhw hefyd eu cychod i fynd â thwristiaid ar deithiau ar yr afon, ac mi fyddai’r merched yn croesawu ymwelwyr yn ystod yr haf. Dyna’r oedd fy nain, Elizabeth yn wneud.’
Roedd Elizabeth yn weddw ers 1900 ac yn gofalu am ddau fab a phum merch. Roedd hi’n stiward y Clwb Golff rhwng 1908-32. ‘Gwahoddwyd hi i roi’r llwyth cyntaf o gregyn gleision yn nhanciau puro Benarth!’ meddai Betty yn falch.
Yn ystod y tymor, fe fyddai’r merched yn trefnu ac yn dethol y cregyn gleision, yn cynnwys Modryb Gwladys, Betty a arferai helpu ei mam yn y Clwb Golff.
Roedd gan Gwladys ‘lais fel yr eos’ ac roedd hi’n eisteddfotwraig o fri a oedd yn aelod o nifer o gorau.
‘Roedd hi’n gweithio gyda’i chwaer, Nel a gwragedd y teuluoedd pysgota eraill’ meddai Betty. ‘Hen ferched oedd Gwladys a Nel, roedd y ddwy wedi colli dyweddi yn y rhyfel. Roedd wyth dynes wedi cael lle gyda’r pysgotwyr yn ystod y Rhyfel Mawr.’
Roedd Gwladys wrth ei bodd yn gweithio gyda’r cregyn gleision. Roedd hi’n adnabyddus am ei llais contralto coeth, ac fe fyddai hi wrth ei bodd yn canu ar gyfer y gweithwyr eraill wrth iddi fynd ati â’i gwaith.
Roedd erthygl am bysgotwyr cregyn gleision Conwy yn y Daily Sketch ym 1938, oherwydd eu bod nhw’n pryderu am ffordd newydd a oedd am ei hadeiladu a fyddai’n effeithio eu bywoliaeth. Mae llun o’r cychod a’r tanciau puro. Mae’r erthygl yn dweud bod Lloyd George wedi ‘brysio i’r dref i gwrdd â dirprwyaeth’ ac ‘addo ei gefnogaeth’, ac mae llun o Nel: ‘Miss Roberts, aelod adnabyddus o’r criw pysgota’ ac o Gwladys ‘eisteddfotwraig o fri’ a fyddai ‘bob tro yn cyfarch y pysgotwyr yn ôl i’r lan gyda chân.’
‘Roedd hi’n dweud mai dyna oedd yn ei chadw hi i fynd, ac mi fu hi’n gweithio gyda’r cregyn gleision tra bu hi byw!’ meddai Betty.
Oherwydd y gwaith gyda’r cregyn gleision, roedd Gwladys yn gallu talu am wersi cerddoriaeth gan athrawon gorau Cymru. Fe fu hi’n canu mewn corau am ddeng mlynedd ar drigain.
‘Ond mi gafodd hi ei moment aur pan aethpwyd â’r ‘Reliance’ i Gaergybi i’w chomisiynu gan y llu morol, a mynd dramor!’
Johnny Roberts
Bu i Johnny Roberts o Gonwy, sy’n berchen ar y Gallery Café a siop anrhegion gyda’i wraig Geraldine, ymddeol o fyd y cregyn gleision pan oedd o tua deugain mlwydd oed er mwyn creu incwm mwy sefydlog ar gyfer ei deulu. Roedd y diwydiant cregyn gleision yn tewi erbyn hynny. Dangosodd lun i mi ohono fo gyda’i dad a’i fodryb 87 mlwydd oed mewn cwch pysgota. Siaradodd Johnny yn gynnes am deuluoedd cregyn gleision enwog Conwy: teuluoedd Jones, Roberts, Hughes a Craven. Fo oedd y bachgen olaf o deulu Roberts i weithio yn y diwydiant.
‘Doedd ‘na ddim amheuaeth o’r cychwyn cyntaf y buaswn i’n ymuno â fy nhad a fy nhaid. Roedd fy nhad, John Lonydd yn dweud wrtha i o hyd “Mae ‘na gwch yn dy ddisgwyl!” ’
Er bod athrawon Johnny’n erfyn arno i aros yn yr ysgol, aeth yn ‘syth oddi yno yn un ar bymtheg i gamu ar gwch!’
O pan oedd o’n wyth oed, bu Johnny’n helpu ei daid, yn mynd â phobl allan ar y cychod rhwyfo. ‘Ro’n i’n ‘nabod yr afon, ac roedd bod arni yn hollol naturiol i mi,’ dywedodd. Roedd ei dad a’i daid yn dal trwyddedau i bysgota eog yn yr afon yn ystod yr haf, ac yn pysgota cregyn gleision oddi ar y gwelyau sydd yn aber yr afon yn y gaeaf. Mae’r cregyn gleision bob tro’n bwydo yn yr un lle.
‘Weithiau mi fyddem ni allan am dri neu bedwar o’r gloch y bore, yn crafu rhew oddi ar y rhwyfau. Roedd o’n waith caled, ond yn fywyd da. Mi fyddai cwch towio’n mynd â phedwar neu bum cwch allan ac mi fyddai yna un cribiniwr a dau gasglwr ym mhob cwch.’ meddai Johnny, yntau’n gasglwr. Dywedodd sut mae’r cregyn gleision yn gallu amrywio. ‘Mi allwn i ddweud wrthoch chi o ble daw unrhyw gragen las o Gonwy yn ôl ei maint a’i lliw. Mi fyddem ni’n rhoi’r cregyn yn y sachau ac yn mynd â nhw i’r tanciau puro,’ dywedodd. Mae o’n cofio’r cyfeillgarwch mawr rhwng y pysgotwyr, yn ogystal â’r adegau caled pan gollwyd cyfeillion.
‘Roedden nhw’n gymeriadau, ac roedd o’n fywyd da – mi awn i’n ôl at hynny’n syth.’
Ronnie Ells
Ronnie Ells - Atgofion o pan ddechreuais i yn y gwaith puro.
Morris Jones oedd Goruchwyliwr y Tanciau a fo oedd yn ben ar bopeth. Gyda Jim Hudson, ni oedd yn gyfrifol am y broses o lanhau. Yn ddiweddarach aeth Jim i gymryd yr awenau gan Morris Jones.
Yn anffodus bu rhaid i Jim ymddeol am resymau iechyd a fi gymerodd y swydd. Mae’n hawdd derbyn cyfarwyddyd ond pan mae gennych chi gyfrifoldeb dros iechyd y cyhoedd a bywoliaeth y pysgotwyr, mae rhaid cymryd dwy rôl yn y gweithle.
O ran y tanciau, roedd yna dri ohonyn nhw; tair modfedd oedd y rhan dyfnaf ac roedden nhw’n dal 300 bag o gregyn, canpwys yr un.
Sut felly’r oedd y broses yn gweithio? Cyn rhoi cregyn gleision heb eu golchi i mewn i’r tanciau, byddai pwmpio dŵr môr i gronfa o 90,000 galwyn. Rhoddid cynnyrch ocsideiddio i glorineiddio’r dŵr ac felly’n lladd unrhyw facteria byw. Roedd angen i’r dŵr yma sefyll am ddeuddeng awr er mwyn iddo fod yn effeithiol.
Yna, byddai angen rhoi’r cregyn gleision ar ridiau a chwistrellu’r mwd oddi arnyn nhw gyda pheipen ddŵr. Byddai’r mwd yn syrthio drwy’r tyllau yn y gridiau a’i wthio allan drwy ddraen ymhell o’r tanciau. Byddai dŵr o’r gronfa wedyn yn gorchuddio’r cregyn am bedair awr ar hugain arall.
Byddai rhaid ail bwmpio’r ‘Res’ ar gyfer y gorchudd olaf, ar ôl y pedair awr ar hugain. Byddai angen ail-olchi’r cregyn er mwyn sicrhau eu bod nhw’n lâ n cyn y llenwad olaf, a byddai’r cregyn yn hwn eto am bedair awr ar hugain.
Yn y cyfamser, byddai samplau yn mynd i’r Labordy Iechyd Cyhoeddus wedi’r cyfnod cyntaf o bedair awr ar hugain, ac ar adegau prin iawn y bydden nhw’n mynegi unrhyw bryder. Wedi’r pedair awr ar hugain diwethaf, roedd hi’n anarferol iawn bod y canlyniad yn un gwael.
Bu i’r broses yma weithio’n dda dros y blynyddoedd a daeth i osod safon uchel ar gyfer gweddill Prydain.
Fe fyddai ymweliad gan Swyddog y Pysgodfeydd i archwilio ansawdd y cregyn yn rhoi braw i’r byw i’r pysgotwyr, rhag ofn bod ganddo ryw bwrpas arall - roedd ganddo fo’r awdurdod eithaf!
Felly beth ddigwyddodd? Gwleidyddiaeth efallai. Ches i erioed mo’r rheswm yn iawn. Fe fyddai rhaid i unrhyw system buro arall gyrraedd yr un safon uchel hefyd, fel y mynnai’r bobl Iechyd Cyhoeddus.
Ronnie Ells – Gwaith Puro Benarth
Mae Benarth ar safle uchel, sy’n bwysig ar gyfer lleoli ac adeiladu cronfa fawr o ddŵr môr. Roedd 'na dri thanc. Roedd y tanc isaf yn dal y cregyn gleision a oedd ar ridiau pren mewn dyfnder o tua thair modfedd: roedd y rhan yma’n gallu dal tri chanpwys i gyd. Yn hwyrach, rhannwyd hwn yn dri thanc ar wahân a oedd ill tri yn gallu gweithio’n annibynnol a gellid defnyddio’r tri yn ôl y galw.
Roedd angen llawer iawn o ddŵr môr er mwyn gwneud y gwaith puro. Roedd y gronfa ar y pen uchaf yn dal 95,000 galwyn y byddai injan nwy yn ei bwmpio ar y dechrau, ac yna rhai trydanol. Mi fyddai’r tanc canol ar gyfer clorineiddio’r dŵr môr gan ddefnyddio cynnyrch ocsideiddio ar ffurf powdwr. Fe fyddai’r dŵr yn dod iddo o’r tanc uchaf ac yn aros yn y tanc canol am ryw ddeuddeng awr fel bod y clorin yn lladd unrhyw facteria byw yn y dŵr.
Yn y cyfamser, byddai’r pysgotwyr wedi gwasgaru’r cregyn ar hyd y gridiau. Byddai gweithwyr y tanciau wedi golchi’r llaid oddi arnyn nhw, a byddai hwnnw’n mynd yn ôl i’r afon.
Y cam nesaf oedd gollwng y dŵr môr glâ n ar y cregyn gleision. Byddai ychydig o gynnyrch niwtraleiddio’n mynd i’r dŵr rhag ofn bod rhywfaint o’r clorin yn dal i fod yn fyw. Byddai’r cregyn yn aros yn y dŵr glâ n ar gyfer cam cyntaf y broses. Fore drannoeth, byddai angen gollwng y dŵr a glanhau’r cregyn gyda pheipen ddŵr unwaith yn rhagor. Wedi hyn, roedd angen gorchuddio’r cregyn eto gyda dŵr môr glâ n ac aros pedair awr ar hugain arall cyn diwrnod ‘anfon’. Byddai samplau yn mynd i’r Adran Iechyd Cyhoeddus i’w gwirio ac roedd yr holl broses yn digwydd dan arolygaeth Goruchwyliwr y Tanciau
Byddai Swyddog y Morfeydd yn dod i’r gwaith yn ddirybudd amryw waith yn ystod y flwyddyn, a byddai’r pysgotwyr yn cynhyrfu’n lâ n. Byddai unrhyw gragen oedd yn rhy fechan (dan ddwy fodfedd) neu ag unrhyw beth arall o’i le arni, angen ei thynnu ac aildrefnu’r cregyn (roedd hyn i gyd yn digwydd gan law) nes bod y Swyddog yn fodlon. Roedd yn amlwg bod y ddwy ochr o’r drefn yma yn parchu ei gilydd.
Byddai’r gwyddau môr yn aros ar y cregyn, a dyma oedd yn arferol ar gyfer cregyn gleision Conwy. Yn anaml iawn y byddai masnachwr yn cwyno am hyn, yn wir daeth yn arwydd da bod y cynnyrch yn dod o Gonwy.
Cedwid cofnodion llawn o’r cregyn a anfonid, a byddai sêl blwm gyda label y Weinidogaeth ar bob sachaid wrth iddyn nhw eu hanfon.
Dros y blynyddoedd, cafwyd newidiadau bychain: roedd y ddalfa’n lleihau ac roedd cael pympiau trydan yn helpu oherwydd gellid llenwi’r tanc clorin mewn un pwmpiad, gyda digon o ddŵr ar gyfer nifer penodol o gregyn. Roedd labordai eraill cyfagos yn defnyddio’r tanc uchaf hefyd ac roedd hyn yn cadw perthynas dda â’r pysgotwyr ac yn profi bod arolygu cyson yn digwydd.
© Gwasanaeth Archifau Conwy
Ronnie Ells – Straeon personol
‘Rydw i’n cofio sefyll yno mewn tanc agored gyda pheipen ddŵr am oriau maith, a bod wedi rhewi’n gorn erbyn gorffen.
Roeddwn i’n ffodus fy mod i’n gweithio gyda Jim Hudson, ‘Jim y Tanciau’, a fu’n gweithio yno am flynyddoedd, cyn ei salwch. Mi fydda i’n hoffi meddwl y gallem ni’n dau fod wedi datrys unrhyw broblem rhyngom. Roedd ceisio ymdopi â’i swydd o ar ei ôl yn dipyn o her. Mae hi’n hawdd cymryd cyfarwyddyd ond yn anodd iawn ei roi.
Unwaith, roedd y tanciau wedi rhewi hyd at ddyfnder o ddeuddeng modfedd. Roedd y sampl yn glir ac roedd ar y pysgotwyr eisiau cymryd y cregyn. Tasem ni wedi gwagu’r tanc, mi fuasai’r cregyn dan orchudd o rew felly mi lenwon ni’r tanc yn defnyddio’r ‘Res’, ond mi gododd y lefel wrth i’r rhew dorri. Mi ddefnyddiom ni gribynnau i dorri’r rhew ond erbyn inni orffen roedd rhew ym mhobman!
Tua dechrau’r tymor, mi fyddai angen gwlychu’r gridiau pren yn hir cyn dechrau’r gwaith. Ond yn aml, mi fyddech chi’n llenwi’r tanciau â chregyn a byddai’r gridiau’n codi. Roedd yr heli’n peri trafferth ar adegau pan oedd llawer o ddŵr ond llanw bychan. Dydy’r llanw’n gyfaill i unrhyw un, ac oherwydd bod angen ail bwmpio’r tanciau a chlorineiddio’r dŵr, golygai y byddem ni yno am oriau maith weithiau.
Roedd Steve Lockwood yn bennaeth yno am gyfnod, ac mi rydw i’n hoffi meddwl ei fod o wedi bod yn gweithio yno, er mai yn y labordy roedd ei brif rôl o.
Yn y dyddiau cynnar roedd gennym ni sied ar gyfer rhoi’r sachau i’r pysgotwyr a chymryd tâl ar gyfer y gwasanaeth. Roeddem ni’n cadw arian parod mewn drôr pren gyda hoelen chwe modfedd, yr unig beth yn ei ddal ar gau. Roedd pawb yn gwybod hyn, ond ni chafwyd trafferth o gwbl. Yn aml iawn, byddech chi’n cael eich hun mewn dwy rôl: un ar gyfer y Weinidogaeth a’r llall ar gyfer y pysgotwyr. Chi fyddai yn y canol.
Roedd angen cymeradwyaeth yr Adran Iechyd Cyhoeddus ar gyfer pob ‘gyriad’. Weithiau mi fyddech chi’n cael Gradd2, ond gan eich bod chi’n cymryd sampl ar ôl pedair awr ar hugain, roedd o bron bob tro yn iawn ac yn ddiogel i fynd i’r farchnad.
Ar adegau eraill, yn ystod y gwanwyn a phan oedd tymheredd y dŵr yn codi, roedd y silio’n digwydd. Ar ddechrau’r tymor wedyn mi fyddai’r tymheredd uchel yn golygu bod lefelau ocsigen yn is na’r hyn oedd yn ddiogel. Ond roedd defnyddio chwistrell yn helpu codi’r lefelau yn ôl . Roedd profiad yn bwysig. Mi fyddech chi’n gwybod wrth edrych ar y cregyn yn y dŵr. Mae’n anodd egluro sut roedd rhywun yn gwybod, dyna sy’n digwydd pan mae rhywun yn treulio cymaint o’r diwrnod gyda chregyn gleision mae’n debyg.
Roedd y Prosiect Colcon yn ymddangos fel problem fawr, buasai carthu gwely’r afon yn codi llawer o ddeunyddiau a soledau. I ddechrau fe amcanwyd nad ellid puro’r cregyn yn y dŵr budr. Ond dyna roi tro arni, ac wrth edrych ar yr effeithiau, fe ddaeth haul ar fryn. Roedd y cregyn yn hidlo’r dŵr mewn dim. Roedd y profion iechyd yn iawn, ac mi ddechreuon ni ddefnyddio cregyn gleision yn y labordy hyd yn oed, er mwyn glanhau dŵr ar ôl i bob glanhawr arall fethu.
Ronnie Ells – Meddwl am y Pysgotwyr
Roedden nhw’n ddynion caled. Roedd rhaid iddyn nhw fod felly gan fod angen rhodli’r cychod tua’r gwelyau. ‘Rydw i’n herio unrhyw un heddiw i wneud hynny a dod adref gyda llwyth o gregyn gleision. Weithiau byddai gwynt o’r dwyrain yn chwythu yn eu herbyn, yna, yn ôl yng Nghonwy roedd gwaith ‘pigo’ i’w wneud. Doedd dim peiriannau bryd hynny. Roedden nhw wedyn yn dod â’r cregyn i waith puro Benarth yn barod ar gyfer y cylch nesaf o buro ar ôl i’r cregyn blaenorol fynd i’r farchnad. A byddai’r holl broses yn ailgychwyn.
Pam bu rhaid i system oedd yn gweithio cystal ddod i ben? Cyfuniad o wleidyddiaeth a dulliau newydd, fel yng Nghonwy heddiw: roedd ar bobl eisiau cynnyrch oedd yn edrych yn lanach ac wedi’i lapio mewn ffordd oedd yn gweddu anghenion cartrefi modern. Mae’n eironig yn tydy, cyn cau’r gwaith puro yng Nghonwy, hwnnw oedd yn gosod y safon ar gyfer unrhyw waith puro arall!
Roedd y pysgotwyr i gyd yn aelodau o Fudiad y Pysgotwyr. Roedd Dr Eric Edwards yn uchel ei barch gan bawb, a bu o’n werthfawr iawn i’r pysgotwyr ac i’r masnachwyr. Mae hi hefyd yn werth sôn am y certwyr a fyddai’n mynd â’r cynnyrch i’r farchnad. Am flynyddoedd, bu Roland Young yn darparu’r cerbydau a ‘Terry Ni’ yn eu gyrru. Ni fu iddo fo erioed siomi. Mae yntau’n haeddu ei grybwyll.
Sut roeddwn i’n teimlo pan gaewyd y tanciau? I ddechrau, mi ges i drafferth credu’r peth ac mi geisiais i amddiffyn y lle. Ond roedd llawer o elfennau yn ein herbyn ni, a’r ergyd olaf oedd yr honiad bod peryg o heintio gan faw gwylanod!
Prin iawn yw ôl yr hen waith yn y safle bellach, ond pan fyddaf i’n cerdded o gwmpas mi fyddaf i’n gweld ambell beth rhyfedd sy’n awgrym o beth fu yma gynt. Mi all ymwelydd ddychmygu beth oedd yma, a dim ond angen gweld pysgotwr a’i gribyn sydd i ddeall mai gwneud yr un peth â’i gyndeidiau y mae.
Ronnie Ells – Mwy gan Ronnie fis Hydref 2013:
Yn dilyn ein sgwrs am yr hen system buro, dydy hi ddim ond yn deg i mi sôn am yr edmygedd sydd gen i at y pysgotwyr cregyn gleision, a fyddai’n mynd allan a’r môr ar drai, tua’r gwelyau.
Roedd yr hen gychod pren yn drwm a doedd dim modur y tu allan iddyn nhw. Weithiau byddai cwch towio yn mynd â nhw allan. Mi fydden nhw’n treulio pedair i bum awr yn pigo gyda dwylo neu’n cribinio yn y dyfroedd dyfnach. Mae’n siŵr bod hyn i’w weld yn hen ffasiwn, ond dyma’r dull sy’n dal i fod heddiw. Mae’r hogia sy’n mynd allan heddiw, y mae llai ohonyn nhw, yn dal i wynebu amodau y buasai’n ysgwyd y gweddill ohonom ni mewn braw! Dychmygwch fore rhewllyd a’r gwynt yn chwythu a chithau’n gorfod mynd allan i’r môr mewn cwch agored. Rydych chi’n oer a gwlyb ac mae oriau o waith yn eich wynebu. Yn yr hen ddyddiau, doedd dim math o ddillad amddiffynnol na chawodydd crand a gwres canolog ar derfyn dydd! Rydym ni’n dal i siarad am yr hen ddyddiau hynny, a’r dynion caled ond bonheddig serch hynny.
Roedd Gareth yn gwylio crancod bychain yn tyrchu’n brysur rhwng y cregyn a’r anemoni mewn pwll bach ar y traeth. Sylwodd ar gregyn gleision yn agor a chau eu cregyn.
‘Yli Megan, yli. Mae’r cregyn yn clapio!’ bloeddiodd wrth Megan, ei chwaer wyth mlwydd oed a oedd yn chwilio am flodau ger y pwll môr.
‘Maen nhw wedi pw pw!’ chwarddodd yntau. ‘Mae o’n binc!’
‘Och, hogyn gwirion,’ meddyliodd Megan. Roedd hi flwyddyn yn hŷn nag o ac yn gweld ei hun yn ddoethach a challach. Serch hynny, roedd hi wrth ei bodd â phopeth pinc, felly aeth i weld.
Roedd rhai cregyn yn llydan agored ac yn gollwng cymylau llaethog. Roedd rhai eraill yn gollwng rhyw gymylau lliw pinc. Trodd y dŵr yn fwy pinc a chymylog tan ei bod hi’n amhosib gweld trwyddo.
‘Twp wyt ti, Gareth, dim pw pw ydy hwnna,’ dywedodd.
‘Be’ ydy o ‘ta?’ gwaeddodd ei brawd
‘Mi ofynna i i mam,’ penderfynodd Megan a rhedodd y ddau tua’r babell fechan y tu cefn i’r twyn tywod.
‘Go dda, amseru gwych!’ dyna gyfarchiad eu mam wrth i’r diferion cyntaf o law syrthio.
‘Terfysg, glaw terfysg!’ gwaeddodd y plant.
‘Mam, mam, mae’r cregyn gleision yn poeri rhyw gymylau pinc a gwyn. Be’ ydy hynny?’
Roedd eu mam yn fiolegydd môr ac felly roedd hi’n gwybod popeth.
‘Mis Ebrill ydy tymor silio’r cregyn gleision. Efallai mai gametau a weloch chi. Mae’n bosib mai’r storm oedd yr achos,’ atebodd. ‘Does ddim llawer o bobl yn ddigon lwcus i ddal hynny’n digwydd.’
‘Ond pam bod y cymylau yn lliwiau gwahanol?’ gofynnodd Gareth.
‘Mae ‘na ddau fath gwahanol o ametau. Mae’r wyau benywaidd yn binc a’r rhai gwrywaidd yn fwy llaethog,’ atebodd eu mam.
Ar ôl peidio’r glaw, aeth y plant yn ôl at y pwll i weld beth oedd wedi digwydd. Roedd y dŵr bellach yn dryloyw eto, ond roedd rhyw haenen binc ar y creigiau bychan a’r algae ar hyd gwaelod y pwll i gyd. Roedd crancod bychain yn dechrau bwyta ohoni.
‘Blant, dewch, mae’n amser mynd adref; mae’r môr ar lanw,’ galwodd eu tad arnyn nhw.
Roedd y plant wedi ymladd ar ôl eu diwrnod ar y traeth felly aethon nhw i’r cae sgwâr yn gynt na’r arfer, ond roedd y cynnwrf o weld y silio yn eu dal nhw’n ddihun.
Fu gan Megan a Gareth erioed ddiddordeb mewn cregyn gleision o’r blaen, ond roedd gwylio’r crancod yn bachu eu bwyd ac yn cludo algae ar ben eu cregyn bob tro yn ddifyr. Tan rŵan, roedd yr hen glystyrau o gregyn gleision hyll a gwyddau môr ar eu hyd i gyd wedi bod yn boen, yn eu hatal nhw rhag dringo’r creigiau’n droed noeth. Roedden nhw wrth eu boddau’n gwneud hynny.
Ond, y noson honno roedden nhw am i’w mam sôn mwy am gregyn gleision a beth fyddai’n digwydd i’r wyau, yn lle eu hanes dylwyth teg arferol. Fyddai’r crancod yn eu bwyta i gyd?
‘Peidiwch â phoeni. Mi â’r wyau ffrwythlon i’r môr gyda’r llanw. Wna’r crancod ddim bwyta popeth. Mae un gragen fenywaidd yn gollwng cannoedd o filiynau o wyau; mae’n rhan o’u goroesi. Mae un wy yn llawer llai na phen nodwydd. Dim ond dan chwyddwydr y gwelwch chi un. Ar ôl eu ffrwythloni mae embryo’n dechrau tyfu a mynd drwy gyfnodau ‘blastua’ a ‘gastrula’. Yn y cyfnod ‘blastua’ maen nhw’n dechrau cylchdroi. Mewn pedair awr ar hugain mae trawsffurfiad anhygoel yn digwydd. Mae’r larfa yn cyrraedd y cyfnod ‘trocoffôr’ ac yn dechrau bwyta plancton, sef: algae bychan sy’n arnofio yn y dŵr. Mae gan y larfa geg, felly mae o’n gallu bwyta. Mae ganddo fo hefyd organau mewnol, stumog a system nerfau, a hyd yn oed llygaid syml. Mae band ar draws y corff gyda dwy res o silia yn helpu iddo nofio’n rhwydd. Dychmygwch!
Mae gan y ‘Trochofforau’ gorff tryloyw siâp diamwnt, and mae cudynnau gwalltog ar eu pennau sy’n helpu iddyn nhw fwydo a llifo’n rhydd, a nofio a dawnsio eu dawns unigryw..’ dywedodd y fam, ond roedd y plant mewn trwmgwsg.
Roedd Megan yn breuddwydio ei bod hi’n cysgu mewn pabell ar y lan. Roedd Gareth wrth ei hochr. Roedd craig fawr dan orchudd o gregyn gleision uwch eu pennau. Prin y gallai hi weld y cregyn eu hunain dan gwrlid trwchus o wyddau’r môr. Rhywsut, er hynny, gallai Megan weld beth oedd y tu mewn i’r cregyn. Roedd y môr ar drai, roedd popeth yn dawel oni bai am waedd y gwylanod wrth iddyn nhw bysgota allan yn y môr. Yna daeth llais meddal, grug o ochr y graig.
‘Foneddigion a boneddigesau, heddiw fy nhro i fydd hi. Rydym ni’n eistedd yma gyda’n gilydd ers blynyddoedd; yr unig newid sydd ydy tro’r llanw a thrai. Pan mae’r môr ar drai, rydym ni’n cadw ein cregyn yn dynn ar gau, a phan mae’r môr ar lanw rydym ni’n agor ac yn hidlo’r dŵr er mwyn dal ein bwyd. Ond dydy hynny ddim yn ein cuddio ni’n dda iawn rhag anifeiliaid sydd am ein bwyta. Rhaid cyfaddef, diflas ydy ein bywyd dyddiol! Ond, rydym ni i gyd wedi byw rhyw foment arbennig. Fy hoff atgof i ydy dawnsio pan oeddwn i’n ‘drocoffôr’ ifanc!
Cododd leisiau eraill yn gôr o adrodd hen atgofion melys.
‘Roedd o’n gyfnod mor fyr fel nad ydw i’n cofio llawer. Yr adeg fwyaf cyffrous i mi oedd chwilio am swbstrad i aneddu arno fo,’ meddai un arall wrth symud ei droed yn osgeiddig i mewn i’w gragen.
‘Roeddwn i’n hoffi pan oedd yr arfwisg dryloyw yn gorchuddio fy nghorff ac yn fy arbed rhag hen anifeiliaid barus oedd am fy mwyta. Wyddoch chi fod niferoedd di-ri o fy mrodyr a chwiorydd wedi eu bwyta,’ dywedodd un arall.
‘Rydych chi i gyd yn gywir. Ond, rydw i am eich atgoffa chi am y llawenydd o fod yn ‘drochofforaus’ a nofio tua’r goleuni,’ seiniodd y llais cyntaf eto. ‘Mi welais i filoedd ohonoch chi, i gyd yn eich sgertiau amryliw, o binc golau i las a gwyrdd. Roedden ni’n dawnsio’n braf yn y dŵr glâ n, yn troelli ac arnofio yma ac acw. Mi ddysgais i’n fuan sut i ddefnyddio fy nghudynnau gwalltog i droi fy hun ben i waered. Roedd fy nghorff yn gloywi wrth i mi symud tua’r golau mawr fry uwchben.
‘Anghofia i fyth mo’r foment yno. Oedd, mi roedd hi’n fyr. Teimlais dyndra’r gwahanol rannau yn fy nghorff oedd yn tyfu ac yn newid yn sydyn. Mi bylodd y golau uwch fy mhen. Daeth tywyllwch, ac yna goleuni drachefn. Bryd hynny, roeddwn i’n llawer mwy ac roedd mwy o arfwisg dros fy nghorff. Roedd fy sgert gain wedi diflannu a hwyl fawr wedi cofi o fy nghragen i fy helpu i i fordwyo. Ond anghofiais i fyth mo’r ddawns gyntaf, a’r olaf.
Tawodd y llais grug a doedd dim i’w glywed ond si’r llanw.
‘Mae’n rhaid i mi ddeffro a phlygu’r babell cyn i’r dŵr gyrraedd,’ meddyliodd Megan yn ei breuddwyd. Ond, pan agorodd ei llygaid nid yn ei phabell yr oedd hi, ond yn ei gwely ac roedd Gareth yn cysgu’n drwm yn yr un ystafell.
‘Breuddwyd oedd o!’ dywedodd ar goedd. ‘Mi fydd rhaid i mi holi mam eto am y cregyn gleision. Sut yn wir y gall creaduriaid mor hardd ddod yn bethau mor ddiflas wrth iddynt heneiddio?’ Wrth ddweud hyn, mi wyddai’n iawn nad diflas mo bywyd cragen las, ond cymhleth a llawn antur.
© Gwasanaeth Archifau Conwy